Dewch yn ran o’r stori
Mae Bys a Bawd Pawb yn perthyn i’n bro
Ac mae sawl ffordd o gyfrannu!
P’un a oes gennych chi amser, llond gwlad o syniadau, adnoddau, neu gariad at lyfrau, mae eich cyfraniad chi’n helpu i gadw’r lle arbennig hwn yn fyw at y dyfodol.
O argymell llyfr neu awdur newydd i gyfrannu’ch amser, cefnogi digwyddiadau, neu siapio syniadau newydd, mae pob cam bach yn rhan enfawr o fywyd y siop.
Dyma le sy’n ffynnu drwy’r bobl. Lle i rannu straeon, dathlu ein hiaith a’n hunaniaeth, a chreu cysylltiadau. Trwy gymryd rhan, rydych chi’n helpu i sicrhau dyfodol ein diwylliant byw.

Gwirfoddoli
Dewch yn rhan o fywyd beunyddiol y siop.
O helpu cwsmeriaid a threfnu silffoedd i gefnogi digwyddiadau a rhannu argymhellion, mae gwirfoddoli yn gyfle i gysylltu ag eraill a gwneud cyfraniad gwerth chweil.
Does dim angen unrhyw brofiad blaenorol, dim ond brwdfrydedd a pharodrwydd i gymryd rhan.
Diddordeb? Cysylltwch â ni i weld allwch chi ymuno â’r tîm.
Buddsoddi
Helpwch i sicrhau dyfodol y siop lyfrau.
Fel menter gymunedol, rydyn ni’n dibynnu ar gefnogaeth pobl sy’n credu yn yr hyn a wnawn. Mae buddsoddi yn Bys a Bawd Pawb yn golygu cefnogi’r iaith Gymraeg, diwylliant lleol, a lleoliad ar gyfer creu cysylltiadau.
P’un ai trwy gyllid, partneriaethau neu fathau eraill o gefnogaeth, mae eich cyfraniad yn cael effaith barhaol.
Cwestiynau Cyffredin
Oes angen i mi siarad Cymraeg i gymryd rhan?
Faint o amser sydd angen i mi ymrwymo fel gwirfoddolwr?
Pa fath o rolau gwirfoddoli sydd ar gael?
A fyddaf yn cael hyfforddiant neu gefnogaeth fel gwirfoddolwr?
Cadw mewn cysylltiad
Cadwch mewn cysylltiad â phob dim sy’n digwydd yn Bys a Bawd Pawb. O stoc ac argymhellion newydd, i ddigwyddiadau a chyfleoedd i gymryd rhan.
Mae’r wefan hon wedi’i diogelu gan reCAPTCHA ac mae ein Polisi Preifatrwydd yn berthnasol.