Pennod newydd i siop lyfrau Cymraeg hynaf y byd
Siop lyfrau i bawb, sy’n perthyn i’n bro – yn dathlu straeon, iaith a chysylltiadau yn Llanrwst, prifddinas Dyffryn Conwy!
Cartref i lyfrau Cymraeg a Chymreig
Mae siop lyfrau Bys a Bawd Pawb, sydd yn nwylo’r gymuned yn Llanrwst, yn dathlu iaith, diwylliant a chysylltiadau. Hon yw siop lyfrau Cymraeg hynaf y byd – mae’n adeiladu ar gyfoeth o draddodiad – ac yn mynd o nerth i nerth trwy weledigaeth y criw sy’n ei siapio heddiw.
Mae’n fwy na dim ond lle i brynu llyfrau – mae’n le i chwilota, rhannu syniadau, a theimlo’n gartrefol. Dewch i bori drwy’n silffoedd a dod yn rhan o’r stori.

Llyfr y mis
Rhwng Nos a Gwawrio: Cerddi i Bobl Ifanc
Geiriau sy’n gerddi ac yn ganeuon sy’n y casgliad hwn.
Mae’r rhan fwyaf yn fyr a chryno – ond yn cynnig cyfle i ymestyn at feysydd ehangach.
Mae amrywiaeth o themâu sy’n berthnasol i ddatblygiad ein pobl ifanc yma – o berthynas pobl a’i gilydd i wrthdaro yn y byd; o ddyfodol y cynefin i ddarluniau o hanes Cymru.
Ar ymyl y ddalen, mae ambell air a all fod yn anghyfarwydd yn cael ei esbonio. O dan bron bob cerdd, mae cyflwyniad gan y bardd.
Mewn byd sy’n rhemp o gasineb a dioddefaint, cyd-deimlad yw’r thema ganolog.
“Wrth ymweld a nifer o ysgolion dros y blynyddoedd, rwyf wedi gweld sut mae barddoniaeth yn medru tanio dychymyg plant a phobl ifanc, ac agor drysau iddyn nhw i weld y byd drwy sbectol wahanol. Gobeithio y bydd y gyfrol hon yn agor y gorwelion”
– Myrddin ap Dafydd
Ymunwch â chymuned Bys a Bawd Pawb

Cadw mewn cysylltiad
Cadwch mewn cysylltiad â phob dim sy’n digwydd yn Bys a Bawd Pawb. O stoc ac argymhellion newydd, i ddigwyddiadau a chyfleoedd i gymryd rhan.
Mae’r wefan hon wedi’i diogelu gan reCAPTCHA ac mae ein Polisi Preifatrwydd yn berthnasol.