Siop lyfrau a adeiladwyd gan y gymuned
Ein siop lyfrau
Wedi’i rhedeg gan y bobl er budd ein pobl, nod y siop yw dathlu darllen a chynnal iaith a diwylliant y fro. P’un ai’ch bod chi’n darganfod awdur newydd, yn troi at hen ffefryn, neu’n galw draw am ennyd dawel, mae croeso i bawb yma.
Mae ‘Bys a Bawd Pawb’ wedi ei wreiddio mewn cynhwysiant, gofal a’r weithred syml o drosglwyddo rhywbeth gwerth chweil o’r naill i’r llall. Mae’r ysbryd hwn yn siapio popeth rydyn ni’n ei wneud yma.
Darn o hanes byw
Ymgyrch prynu Bys a Bawd
2025-2026
28 Chwefror ’25 – lansiwyd y Cynnig Cyfranddaliadau mewn gig gyda Tecwyn Ifan
550 o gyfranddalwyr
£127,000 mewn buddsoddiadau
£324,753 o gyllid grant wedi’i ddyfarnu
118 o aelodau Cymdeithas Bys a Bawd Pawb
662 o ddilynwyr ar Facebook a 679 o ddilynwyr ar Instagram
26 o lythyrau cefnogaeth gan sefydliadau lleol
18 o glipiau fideo gan gefnogwyr yn cynnwys yr awduron Myrddin ap Dafydd, Bethan Gwanas, John Gower, Sian Northey, Tudur Owen, Angharad Price ac Aneirin Karadog
6.4K o bobl wedi gwylio fideo’r sylwebydd rygbi, Dyddgu Morgan – Hywel
8.6K o bobl wedi gwylio fideo’r darlledwr Radio Cymru, Aled Hughes
5 Ebrill 25 – Recordiwyd podlediad poblogaidd Colli’r Plot yn Llanrwst
16 Ebrill 25 – Cynhaliwyd sesiwn i deuluoedd gyda Magi Ann yn Llyfrgell Llanrwst
Sylw ar y cyfryngau cenedlaethol (Heno, Radio Cymru, Golwg a’r Daily Post)
Sylw yn y Papurau Bro lleol (Y Pentan, Yr Odyn, Y Gadlas a’r Bedol)
Ein hanes
- Agorwyd Y Siop Lyfrau Cymraeg yn Tan y Graig, Llanrwst, y gyntaf o’r fath yng Nghymru
- Prynwyd Y Siop Fferins a Baco yn 27, Stryd Dinbych, Llanrwst gan Wil Berry
- Agorwyd Siop Bys a Bawd, busnes offer swyddfa a gwasanaeth teipio yn 2, Stryd Watling, Llanrwst gan Gwawr Dafydd
- Cyfunwyd Y Siop Lyfrau Cymraeg a Bys a Bawd mewn safle newydd, 29, Stryd Dinbych, Llanrwst
- Prynwyd Siop Bys a Bawd gan berchennog newydd, Dwynwen Berry
- Estynnwyd Siop Bys a Bawd i gynnwys cyn Siop Fferins Wil Berry, 27, Stryd Dinbych
- Anrhydeddwyd Arianwen Parry am gyfraniad oes i’r diwydiant llyfrau Cymraeg yng Ngŵyl y Fedwen Lyfrau a gynhaliwyd yn Llanrwst
- Prynwyd hen adeilad Banc yr HSBC ar y Sgwâr gan Fenter Iaith Conwy
- Cofrestrwyd Cymdeithas Budd Cymunedol Bys a Bawd Pawb gyda’r amcan o brynu’r Siop a’i rhedeg er Budd y gymuned
- Cynigwyd cyfranddaliadau yng Nghymdeithas Budd Cymunedol Bys a Bawd Pawb a chodwyd yn agos i £128,000
- Cyflawnwyd pryniant Siop Bys a Bawd
- Agorwyd y Siop gan Bys a Bawd Pawb am y tro cyntaf ar gyfer Deuddydd Bargeinion cyn i’r Siop gau ar gyfer gwaith adnewyddu
- Agorwyd Siop Dros Dro Bys a Bawd Pawb yn Adeilad Menter Iaith Conwy ar y Sgwâr yn Llanrwst
Ein cynefin
Mae tref farchnad Llanrwst yn llawn hanes a threftadaeth ac ymdeimlad cryf o Gymreictod. Wedi’i hamgylchynu gan fynyddoedd, afonydd a choedwigoedd chwedlonol, bu’n fan cyfarfod ac yn ganolbwynt diwylliant a masnach Dyffryn Conwy canrifoedd. Mae traddodiad a chreadigrwydd y dref yn parhau, ac yn gartref perffaith i siop Gymraeg.
Mae Bys a Bawd Pawb yn adlewyrchu’r ysbryd hwn: lleol, croesawgar ac yn llwyr berthyn i le.