Amdanom

Siop lyfrau a adeiladwyd gan y gymuned

Ein siop lyfrau

Wedi’i rhedeg gan y bobl er budd ein pobl, nod y siop yw dathlu darllen a chynnal iaith a diwylliant y fro. P’un ai’ch bod chi’n darganfod awdur newydd, yn troi at hen ffefryn, neu’n galw draw am ennyd dawel, mae croeso i bawb yma.

Mae ‘Bys a Bawd Pawb’ wedi ei wreiddio mewn cynhwysiant, gofal a’r weithred syml o drosglwyddo rhywbeth gwerth chweil o’r naill i’r llall. Mae’r ysbryd hwn yn siapio popeth rydyn ni’n ei wneud yma.

Darn o hanes byw

Rydyn ni’n ymfalchïo yn y ffaith mai ni yw’r siop lyfrau Cymraeg hynaf yn y byd. Mae’r siop wedi chwarae rhan hanfodol mewn cadw llenyddiaeth Gymraeg yn fyw, gan gefnogi awduron, cynnal ein hiaith a chysylltu cymunedau trwy straeon. Heddiw, mae’r gwaddol yn parhau diolch i genhedlaeth newydd o wirfoddolwyr, darllenwyr a chefnogwyr sy’n credu yn ei dyfodol gan werthfawrogi’r gorffennol.

Ymgyrch prynu Bys a Bawd

2025-2026

  • 28 Chwefror ’25 – lansiwyd y Cynnig Cyfranddaliadau mewn gig gyda Tecwyn Ifan

  • 550 o gyfranddalwyr

  • £127,000 mewn buddsoddiadau

  • £324,753 o gyllid grant wedi’i ddyfarnu

  • 118 o aelodau Cymdeithas Bys a Bawd Pawb

  • 662 o ddilynwyr ar Facebook a 679 o ddilynwyr ar Instagram

  • 26 o lythyrau cefnogaeth gan sefydliadau lleol

  • 18 o glipiau fideo gan gefnogwyr yn cynnwys yr awduron Myrddin ap Dafydd, Bethan Gwanas, John Gower, Sian Northey, Tudur Owen, Angharad Price ac Aneirin Karadog

  • 6.4K o bobl wedi gwylio fideo’r sylwebydd rygbi, Dyddgu Morgan – Hywel

  • 8.6K o bobl wedi gwylio fideo’r darlledwr Radio Cymru, Aled Hughes

  • 5 Ebrill 25 – Recordiwyd podlediad poblogaidd Colli’r Plot yn Llanrwst

  • 16 Ebrill 25 – Cynhaliwyd sesiwn i deuluoedd gyda Magi Ann yn Llyfrgell Llanrwst

  • Sylw ar y cyfryngau cenedlaethol (Heno, Radio Cymru, Golwg a’r Daily Post)

  • Sylw yn y Papurau Bro lleol (Y Pentan, Yr Odyn, Y Gadlas a’r Bedol)

Ein hanes

  • Agorwyd Y Siop Lyfrau Cymraeg yn Tan y Graig, Llanrwst, y gyntaf o’r fath yng Nghymru
  • Prynwyd Y Siop Fferins a Baco yn 27, Stryd Dinbych, Llanrwst gan Wil Berry
1955
  • Agorwyd Siop Bys a Bawd, busnes offer swyddfa a gwasanaeth teipio yn 2, Stryd Watling, Llanrwst gan Gwawr Dafydd
1982
  • Cyfunwyd Y Siop Lyfrau Cymraeg a Bys a Bawd mewn safle newydd, 29, Stryd Dinbych, Llanrwst
1986
  • Prynwyd Siop Bys a Bawd gan berchennog newydd, Dwynwen Berry
2007
  • Estynnwyd Siop Bys a Bawd i gynnwys cyn Siop Fferins Wil Berry, 27, Stryd Dinbych
2009
  • Anrhydeddwyd Arianwen Parry am gyfraniad oes i’r diwydiant llyfrau Cymraeg yng Ngŵyl y Fedwen Lyfrau a gynhaliwyd yn Llanrwst
2010
  • Prynwyd hen adeilad Banc yr HSBC ar y Sgwâr gan Fenter Iaith Conwy
2018
  • Cofrestrwyd Cymdeithas Budd Cymunedol Bys a Bawd Pawb gyda’r amcan o brynu’r Siop a’i rhedeg er Budd y gymuned
  • Cynigwyd cyfranddaliadau yng Nghymdeithas Budd Cymunedol Bys a Bawd Pawb a chodwyd yn agos i £128,000
2025
  • Cyflawnwyd pryniant Siop Bys a Bawd
  • Agorwyd y Siop gan Bys a Bawd Pawb am y tro cyntaf ar gyfer Deuddydd Bargeinion cyn i’r Siop gau ar gyfer gwaith adnewyddu
  • Agorwyd Siop Dros Dro Bys a Bawd Pawb yn Adeilad Menter Iaith Conwy ar y Sgwâr yn Llanrwst
2026

Ein cynefin

Mae tref farchnad Llanrwst yn llawn hanes a threftadaeth ac ymdeimlad cryf o Gymreictod. Wedi’i hamgylchynu gan fynyddoedd, afonydd a choedwigoedd chwedlonol, bu’n fan cyfarfod ac yn ganolbwynt diwylliant a masnach Dyffryn Conwy canrifoedd. Mae traddodiad a chreadigrwydd y dref yn parhau, ac yn gartref perffaith i siop Gymraeg.


Mae Bys a Bawd Pawb yn adlewyrchu’r ysbryd hwn: lleol, croesawgar ac yn llwyr berthyn i le.