Cymryd rhan

Dewch yn ran o’r stori

Mae Bys a Bawd Pawb yn perthyn i’n bro

Ac mae sawl ffordd o gyfrannu!

P’un a oes gennych chi amser, llond gwlad o syniadau, adnoddau, neu gariad at lyfrau, mae eich cyfraniad chi’n helpu i gadw’r lle arbennig hwn yn fyw at y dyfodol.

O argymell llyfr neu awdur newydd i gyfrannu’ch amser, cefnogi digwyddiadau, neu siapio syniadau newydd, mae pob cam bach yn rhan enfawr o fywyd y siop.

Dyma le sy’n ffynnu drwy’r bobl. Lle i rannu straeon, dathlu ein hiaith a’n hunaniaeth, a chreu cysylltiadau. Trwy gymryd rhan, rydych chi’n helpu i sicrhau dyfodol ein diwylliant byw.

Gwirfoddoli

Dewch yn rhan o fywyd beunyddiol y siop.

O helpu cwsmeriaid a threfnu silffoedd i gefnogi digwyddiadau a rhannu argymhellion, mae gwirfoddoli yn gyfle i gysylltu ag eraill a gwneud cyfraniad gwerth chweil.

Does dim angen unrhyw brofiad blaenorol, dim ond brwdfrydedd a pharodrwydd i gymryd rhan.

Diddordeb? Cysylltwch â ni i weld allwch chi ymuno â’r tîm.

Buddsoddi

Helpwch i sicrhau dyfodol y siop lyfrau.

Fel menter gymunedol, rydyn ni’n dibynnu ar gefnogaeth pobl sy’n credu yn yr hyn a wnawn. Mae buddsoddi yn Bys a Bawd Pawb yn golygu cefnogi’r iaith Gymraeg, diwylliant lleol, a lleoliad ar gyfer creu cysylltiadau.

P’un ai trwy gyllid, partneriaethau neu fathau eraill o gefnogaeth, mae eich cyfraniad yn cael effaith barhaol.

Cwestiynau Cyffredin

Oes angen i mi siarad Cymraeg i gymryd rhan?
Mae hyn yn amrywio yn dibynnu ar y rôl. Mae’r gallu i siarad rhywfaint o Gymraeg yn hanfodol ar gyfer gwasanaethu yn y siop.
Mae hyn yn amrywio yn dibynnu ar y rôl. Mae angen ymrwymiad o 4 awr yr wythnos ar gyfer gwirfoddoli yn y siop.
Gwasanaethu yn y siop, helpu gyda digwyddiadau, paratoi cynnwys ar gyfer y cyfryngau cymdeithasol, creu adolygiadau llyfrau, bod yn berson cyswllt ar gyfer ysgol…
Byddwch. Fel rhan o’r broses sefydlu, byddwn yn trefnu hyfforddiant neu arweiniad sy’n berthnasol i’ch rôl, a bydd cefnogaeth ar gael.