Mae Bys a Bawd yn siop lyfrau Gymraeg boblogaidd iawn, wedi’i lleoli mewn adeilad siop draddodiadol yng nghanol Llanrwst. Dyma’r unig siop lyfrau Gymraeg yng Nghonwy, ac eleni mae’n dathlu ei phen-blwydd yn 70 oed.
Mae’r perchennog presennol eisiau ymddeol. Yn 2023, rhoddodd y busnes, y siop a’r ddau fflat cysylltiedig ar werth.
Pan ddaeth yn amlwg nad oedd unrhyw un eisiau prynu’r ased, cysylltodd Cyngor Llyfrau Cymru â Menter Iaith Conwy i ofyn a fyddent yn cefnogi pryniant y busnes dan arweiniad y gymuned.
Ym mis Ebrill 2024, trefnodd Menter Iaith Conwy ddau gyfarfod cyhoeddus i drafod y syniad o lansio cynnig cyfranddaliadau cymunedol i godi arian i brynu’r siop. Daeth tua 50 o bobl, gyda chefnogaeth eang a brwdfrydig i’r prosiect.
Yn dilyn hyn, daeth grŵp o ddeg o bobl ymlaen i ffurfio bwrdd a phwyllgor Bys a Bawd Pawb. Mae’r grŵp yn gyfuniad o unigolion lleol sydd ag ystod eang o brofiad proffesiynol, cymunedol a gwirfoddol, sy’n awyddus i ddod ag egni a brwdfrydedd newydd i’r siop.
Mae’r grŵp yn gobeithio lansio cynnig cyfranddaliadau ym mis Mawrth. Os ydyn nhw’n codi digon o arian i brynu Bys a Bawd, bydd y busnes yn cael ei redeg gan y bwrdd rheoli, ar ran buddsoddwyr.
Byddant yn cyflogi staff proffesiynol, ond mae llawer o bobl hefyd wedi cysylltu â nhw a hoffai wirfoddoli.
Dros yr wythnosau diwethaf, mae llawer wedi bod yn digwydd, gan gynnwys:
- Gweithio ar geisiadau grant
- Creu gwefan
- Cofrestru fel Cymdeithas Budd Cymunedol
- Datblygu’r dogfennau cynnig cyfranddaliadau cymunedol
- Sefydlu cyfrif banc
- Trefnu cyfres o ddigwyddiadau codi ymwybyddiaeth
- Marchnata
- Trefnu prisiadau ac arolygon
About
Bys a Bawd is a much-loved Welsh bookshop, located in a traditional shop building in the centre of Llanrwst. It is the only Welsh language bookshop in Conwy, and this year celebrates its 70th anniversary.
The current owner wishes to retire. In 2023, she put the business, shop and the two accompanying flats up for sale.
When it became clear no-one wanted to buy the asset, the Books Council of Wales contacted Menter Iaith Conwy to ask if they would support a community-led purchase of the business.
In April 2024, Menter Iaith Conwy organised two public meetings to discuss the idea of launching a community share offer to raise money to buy the shop. Over 50 people attended, with widespread and enthusiastic support for the project.
Following this, a group of ten people came forward to form the board and committee of Bys a Bawd Pawb. The group are a combination of local individuals with a wide range of professional, community and voluntary experience, who are keen to bring new energy and enthusiasm to the shop.
The group hope to launch a share offer in March. If they raise enough money to buy Bys a Bawd, the business will be run by the management board, on behalf of investors.
They will employ professional staff, but have also been approached by many people who would like to volunteer.
Over the last few weeks, a lot has been happening, including:
- Work on grant applications
- Creating a website
- Registering as a Community Benefit Society
- Developing the community share offer documents
- Setting up a bank account
- Organising a series of awareness raising events
- Marketing
- Arranging valuations and surveys
Ydych chi’n bwriadu gwneud unrhyw newidiadau i’r siop?
Rydym am ddatblygu Bys a Bawd yn ganolbwynt diwylliannol a llenyddol, sydd ar agor drwy’r dydd a gyda’r nos.
Bydd yn cynnal digwyddiadau, sgyrsiau, arwyddo llyfrau, a gigs bach. Bydd lle yn y siop i aelodau’r gymuned gyfarfod am goffi, cwrw a sgwrs, gyda gweithgareddau fel clwb llyfrau rheolaidd a sgyrsiau llenyddol yn rhoi cyfle croesawgar i gymdeithasu.
Bydd y prosiect hefyd yn cynnig gweithgareddau creadigol i bobl ifanc a phlant, gan gynnwys gweithdai barddoniaeth a pherfformio, a sesiynau amser stori. Bydd pob gweithgaredd yn ddwyieithog, gyda Chymraeg yn gyntaf – ac mae croeso i bawb.
Rydym hefyd yn bwriadu cynnig ystod ehangach o grefftau cyfoes i’w gwerthu, gan gefnogi cynhyrchwyr ac artistiaid Cymreig lleol.
Bydd y tenantiaid sy’n byw yn y fflatiau ar hyn o bryd yn parhau â’u tenantiaeth drwy gydol y newid perchnogaeth.
Do you plan to make any changes to the shop?
We want to develop Bys a Bawd into a cultural and literary hub, open throughout the day and evening.
It will host events, talks, book signings, and small gigs. There will be space in the shop for members of the community to meet for a coffee, beer, and chat, with activities like a regular book club and literary talks providing a welcome opportunity to socialise.
The project will also offer creative activities for young people and children, including poetry and performance workshops, and storytime sessions. All activities will be bilingual, with Welsh first – and everyone is welcome.
We also plan to offer a wider range of contemporary crafts for sale, supporting local Welsh producers and artists.
The tenants who currently live in the flats will continue their tenancy throughout the change of ownership.
Sut fyddwch chi’n ariannu hyn?
Mae cyfrifon diweddaraf y siop yn dangos bod y busnes yn broffidiol. Ar hyn o bryd mae gwerthiannau llyfrau yn cyfrif am oddeutu 40% o’r incwm, gyda’r incwm rhent o’r fflatiau yn darparu ffrwd incwm bwysig, yn ogystal â llety lleol fforddiadwy.
Bydd ein rhaglen o weithgareddau a chynlluniau yn helpu i ddenu mwy o gwsmeriaid, ac yn cefnogi cynaliadwyedd y prosiect cyfan.
Gwahoddwyd Bys a Bawd Pawb i wneud cais am grant o £150,000 gan Lywodraeth Cymru i dalu am unrhyw gostau adnewyddu. Bydd y cais hwn yn cael ei gyflwyno ddiwedd mis Ebrill.
How will you fund this?
The shop’s latest accounts show that the business is profitable. Book sales currently account for around 40% of income, with the rental income from the flats providing an important income stream, as well as affordable local accommodation.
Our programme of activities and plans will help attract more customers, and support the sustainability of the whole project.
Bys a Bawd Pawb has been invited to apply for a £150,000 grant from the Welsh Government to pay for any renovation costs. This application will be submitted in late April.
Beth os na fyddwch yn codi digon o gyfranddaliadau i brynu’r adeilad?
Rydym yn hyderus y byddwn yn gallu codi digon o fuddsoddiad. Mae Bys a Bawd yn fusnes eiconig – a’r unig siop lyfrau Cymraeg sydd ar ôl yng Nghonwy. Mae’n hanfodol bod yr etifeddiaeth hon yn cael ei diogelu.
Fodd bynnag, os na fyddwn yn codi digon o fuddsoddiad cyfranddaliadau, gallwn ddefnyddio’r grant £150,000 cyfan neu ran ohono gan Lywodraeth Cymru i dalu am y costau prynu.
Rydym hefyd wedi cael cynnig benthyciad buddsoddi cymdeithasol gan Gyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru a fyddai’n talu rhywfaint o gost y pryniant.
What if you don’t raise enough in shares to buy the building?
We are confident that we will be able to raise enough investment. Bys a Bawd is an iconic business – and the only Welsh bookshop left in Conwy. It is vital this legacy is protected.
However, if we do not raise enough share investment, we can use all or part of the £150,000 grant from the Welsh government to pay for the purchase costs.
We have also been offered a social investment loan from the Wales Council for Voluntary Action, which could cover some of the cost of the purchase.

